Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|---|
Dyddiad | 20 Mai 685 |
Lleoliad | Dunnichen, Dunachton |
Ymladdwyd Brwydr Llyn Garan (neu 'Brwydr Dun Nechtain'; Hen Gymraeg: Gueith Linn Garan) ar 20 Mai 685 rhwng y Pictiaid o dan arweinyddiaeth brenin Bridei Mac Bili a'r Northumbriaid o dan arweinyddiaeth brenin Ecgfrith. Bu'r frwydr yn fuddugoliaeth fawr i'r Pictiaid. Lladdwyd Ecgfrith yn y frwydr.
Cyfeirir at y frwydr gan Beda yn ei Historia Ecclesiastica Gentis Anglorum (IV:XXVI) er nad yw'n rhoi enw iddi. Daw'r enw Hen Gymraeg Gueith Linn Garan ('Gwaith Llyn Garan') o Historia Brittonum (pennod 57, c. 828) a briodolir i Nennius.[1]
Mae blwyddgofnoion o Iwerddon yn lleoli'r frwydr mewn man o'r enw Dún Nechtain ('caer Nechtan)'.[2] Mae dau fan wedi eu huniaethu â'r enw hwn, sef Dunnichen yn Angus a Dunachton yn Badenoch.[3]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search